Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

 

 

 

 

 

                    

                                       

                 14 Mawrth 2014

Annwyl Gyfaill,

 

Cyflwynodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ei ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru ym mis Mai 2012. Prif ddiben yr ymchwiliad oedd edrych pa mor effeithiol oedd contract Fferylliaeth Gymunedol 2005 o ran datblygu cyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd a lles yng Nghymru.

 

Ar adeg cyhoeddi’r adroddiad, nododd y Pwyllgor ei fwriad i ddychwelyd at y pwnc yn ystod y tymor hwn yn y Cynulliad, er mwyn ystyried ei ganfyddiadau a’i argymhellion cychwynnol ymhellach. Defnyddir yr ymchwiliad dilynol hwn i ystyried pa mor effeithiol fu Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r materion a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithredu argymhellion y Pwyllgor.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

I lywio ei waith, mae’r Pwyllgor yn cysylltu â’r rhai a gyflwynodd dystiolaeth i’r ymchwiliad gwreiddiol, gyda’r nod o gasglu corff o dystiolaeth i lywio ein cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Prif Swyddog Fferyllol. Mae’r sesiwn hon wedi’i hamserlenni ar gyfer Mehefin 2014.

 

Hoffai’r Pwyllgor glywed am unrhyw dystiolaeth o gynnydd mewn cysylltiad â’r argymhellion a wnaed yn Adroddiad 2012, a lle mae angen cynnydd o hyd.  

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno’n ysgrifenedig gan ei bod yn arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor ar ein gwefan fel ei bod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i’r cyhoedd. 

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i PwyllgorIGC@cymru.gov.uk.

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Gwener 2 Mai 2014. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Wrth baratoi eich sylwadau, cofiwch:

·         ddefnyddio dim mwy na phum ochr A4;

·         defnyddio paragraffau wedi’u rhifo;

·         (os byddwch yn anfon sylwadau electronig) byddai’n well defnyddio dogfennau Word, yn hytrach na ffeiliau pdf;

·         canolbwyntio ar y cylch gorchwyl a amlinellwyd uchod.

 

Datgelu Gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael yn http://www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Sicrhewch eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

 

 

Yn gywir

David Rees AC

Cadeirydd